Croeso i 'Dysgu Chwarae', y pecyn adnoddau rhyngweithiol cyntaf a grëwyd i ddatblygu gweithgareddau'r blynyddoedd cynnar. Mae'n cefnogi arfer dda ac yn rhoi arweiniad i'r rhai sy'n astudio i fod yn ymarferwyr blynyddoedd cynnar, fel yr amlinellir yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae'r adnodd hwn yn cynnig blas o themâu 'Dysgu Chwarae' ac yn cynnwys 2 thema ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sef 'Dyma Fi' a 'Brr! Mae'n oer!'. Bydd y fersiwn cyflawn, a gaiff ei ryddhau yn 2010, yn cynnwys 6 thema.
Cychwyn Dysgu Chwarae
Byddem yn croesawu adborth ar y pecyn enghreifftiol hwn, ac yn cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhellion gan ddefnyddiwr o ran sut y gallem wella ar y cynnyrch terfynol a'i gynnwys. Mae croeso i chi e-bostio eich sylwadau i:
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn copi gweithredol llawn o 'Dysgu Chwarae' pan gaiff ei ryddhau, anfonwch eich enw a'ch manylion cyswllt i:
Doleni: Mudiad Ysgolion Meithrin | Cam Wrth Gam | Mabon a Mabli
